English

Cyswllt parhaus â’r teulu biolegol

Yn y mwyafrif o fabwysiadau bydd rhyw fath o gyswllt parhaus â’r teulu biolegol. Gwneir hyn naill ai trwy gyswllt uniongyrchol – fel arfer gyda brodyr a chwiorydd – neu drwy gyswllt anuniongyrchol trwy ein gwasanaeth Cyswllt Llythyr.

Gall y tîm cyswllt gynnig cymorth ac arweiniad i chi gydag ysgrifennu llythyrau naill ai dros y ffôn neu gallwch ymweld â’r swyddfa am apwyntiad wyneb yn wyneb.

Os ydych yn ei chael hi’n anodd darllen neu ysgrifennu, rhowch wybod i ni a byddwn yn eich helpu i ddarllen ac ysgrifennu eich llythyrau. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfieithu os oes angen cyfieithu’r llythyrau rydych yn eu hanfon neu eu derbyn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk