Gyda’r rhan fwyaf o blant yng Nghymru, pan fyddan nhw’n cael eu symud oddi wrth eu teulu biolegol am y tro cyntaf, naill ai ychydig cyn neu ar ddechrau’r achos gofal, maen nhw naill ai’n cael eu gosod gydag aelodau o’r teulu neu mewn lleoliad maethu byrdymor gyda gofalwyr maeth cymeradwy. Os mai cynllun yr awdurdod lleol, wedi ei gadarnhau gan y llys, yw i’r plentyn naill ai gael ei ddychwelyd i’w rieni biolegol neu ei osod gydag aelodau o’r teulu, yna mae’r plentyn yn symud o’i leoliad maethu ar ddiwedd yr achos. Os yw’r cynllun gofal ar gyfer mabwysiadu yn cael ei dderbyn gan y llys, bydd y gofalwr maeth yn gofalu am y plentyn wrth iddo drosglwyddo i’w leoliad mabwysiadol. Gyda SCC, mae’r gofalwyr maeth sy’n cymryd y plentyn ar ddechrau’r achos hefyd yn ddarpar rieni mabwysiadol cymeradwy. Maen nhw’n gweithredu fel unrhyw ofalwyr maeth, gan ofalu am y plentyn, hwyluso cyswllt â’r teulu biolegol a chymryd rhan yn adolygiadau derbyn gofal y plentyn. Os mai’r cynllun gofal yw i ddychwelyd y plentyn i’w deulu neu ei leoli gyda nhw, yna maent yn helpu’r plentyn wrth drosglwyddo i’w deulu biolegol. Os yw’r cynllun gofal ar gyfer mabwysiadu, yna mae’r plentyn yn aros gyda’r gofalwyr maeth sydd wedyn yn dod yn rhieni mabwysiadol.
Nid yw bod yn ofalwr SCC i bawb. Fodd bynnag, os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am hyn fel opsiwn, gallwch gofrestru ar gyfer sesiwn hyfforddi (Hyfforddiant Paratoi SCC i Ofalwyr) fydd yn edrych yn fanylach ar rôl gofalwr maeth SCC. Ar ddiwedd y cwrs hwnnw, efallai y byddwch yn penderfynu nad yw SCC yn iawn i chi, ond byddwch chi o leiaf wedi archwilio’r opsiwn. Ar ôl y diwrnod hyfforddi cychwynnol, os oes gennych ddiddordeb o hyd, gallwch gymryd rhan mewn cwrs hyfforddi undydd arall, fydd yn eich paratoi ar gyfer bod yn ofalwr maeth.
Am Ragor o Wybodaeth: Adopt Cymru: Sefydlogrwydd Cynnar Cymru
Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.
Rhadffôn
0800 085 0774
E-bost
adoption@wrexham.gov.uk