English

Adnoddau defnyddiol

Os ydych chi’n ystyried mabwysiadu, rydyn ni’n argymell darganfod cymaint ag y gallwch chi am y broses yn gyntaf – ac mae gennym ni ddigon o wybodaeth i’ch rhoi ar ben ffordd.

Dyma rai adnoddau defnyddiol i’ch helpu i ddeall beth i’w ddisgwyl cyn, yn ystod ac ar ôl y broses fabwysiadu.

Darllen, gwylio a gwrando…

#DewisTeulu

Ni allwch newid eu gorffennol, ond gallwch wneud dewis sy’n newid eu dyfodol. Deall mwy am y plant sy'n aros amdanoch.

Darllen mwy

Podlediad

Mae Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu yn wrandawiad craff a thwymgalon gan wahanol fabwysiadwyr ledled Cymru. Cewch glywed gan y bobl sydd eisoes wedi bod yno a'i wneud.

Darllen mwy

Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

Nod y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yw gwella gwasanaethau mabwysiadu ledled Cymru ac mae'n hyrwyddo ac yn cefnogi arfer gorau wrth fabwysiadu.

Darllen mwy

Adoption UK

Mae Adoption UK yn darparu cefnogaeth, cymuned ac eiriolaeth i rieni sy'n mabwysiadu.

Darllen mwy

CoramBAAF

Mae Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain (CoramBAAF) yn cefnogi anghenion datblygiad proffesiynol ymarferwyr trwy addysg a hyfforddiant.

Darllen mwy

DEWIS

Mae DEWIS yn darparu cefnogaeth i deuluoedd sy'n mabwysiadu ar bob cam o'u taith fabwysiadu.

Darllen mwy

Gwasanaethau gwybodaeth i deuluoedd

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) yn darparu cefnogaeth a chyngor diduedd am ddim ar ystod o faterion teuluol fel costau gofal plant, addysg, gofal iechyd a gwasanaethau hamdden.

Darllen mwy

COECT

Mae'r Ganolfan Rhagoriaeth mewn Trawma Plant (COECT) yn darparu gwybodaeth, cyngor ac adnoddau i helpu teuluoedd i ddeall effaith trawma plentyndod a'r ffordd orau o gefnogi plant a allai fod wedi profi digwyddiadau anodd neu drawmatig yn eu bywydau.

Darllen mwy

New Family Social

Mae New Family Social yn elusen sy'n cefnogi pobl LHDTC+ sy'n maethu, mabwysiadu, neu'n ystyried tyfu eu teulu. Maent yn cynnig gwybodaeth, adnoddau a chymuned groesawgar i helpu teuluoedd i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi trwy gydol eu taith.

Darllen mwy

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk