Mae Blwch Llythyrau Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn wasanaeth rydym yn ei gynnig i bob plentyn sydd wedi’i fabwysiadu drwy chwe awdurdod gogledd Cymru.
Mae hwn yn drefniant sy’n cael ei wneud yn ystod y broses fabwysiadu, a wneir ar ôl ystyriaeth gan weithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill, ac rydym yn hwyluso’r gwasanaeth hwn ar eu rhan. Mae’r rhieni mabwysiadol fel arfer yn gwneud hyn ar ran y plentyn/plant sydd wedi’u mabwysiadu. Ond wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu na all y plant gyfrannu. Mae gennym lawer o blant sy’n mwynhau cymryd rhan trwy gynnwys print llaw neu ddarlun, neu weithiau hyd yn oed llythyr wedi’i ysgrifennu â llaw.
Rydym yn argymell bod llythyrau a dderbynnir gan y teulu biolegol yn cael eu rhannu gyda’r plentyn mabwysiadol.
I blant mabwysiedig
Mae cyswllt Blwch Llythyrau yn brofiad cadarnhaol wrth helpu a chefnogi plant mabwysiedig. Mae’n helpu gyda:
I rieni mabwysiadol
I deulu genedigol
I deulu genedigolgall cyfnewid gwybodaeth yn gadarnhaol drwy flwch llythyrau helpu gyda:
Cysylltwch â’n gwasanaeth Blwch Llythyrau dros y ffôn, post neu e-bost:
Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Tîm Cyswllt Blwch Llythyrau
3ydd Llawr Stryd Lambpit
Wrecsam
LL11 1AR
Ffôn: 01978 295311
E-bost: nwasletterbox@wrexham.gov.uk
Mwy am ein gwasanaeth blwch llythyrau…
Mae cyswllt blwch llythyrau yn cychwyn ar ôl i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei ganiatáu yn ystod y mis y cytunwyd arno ac mae'n parhau nes bod y plentyn yn 18 oed.
Mae'r rhieni mabwysiadol fel arfer yn gwneud hyn ar ran y plentyn / plant sydd wedi'u mabwysiadu, gan ganiatáu i blant gadw cysylltiadau ag aelodau allweddol o'r teulu.
Gall cyfathrebu â theulu genedigol eich plentyn ymddangos yn frawychus, ond gall fod yn brofiad hynod gadarnhaol i bawb. Mae gennym ddigon o gyngor ac arweiniad ar gyfer cadw mewn cysylltiad â theuluoedd genedigol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.
Rhadffôn
0800 085 0774
E-bost
adoption@wrexham.gov.uk