English

Pryd mae’r gwasanaeth Blwch Llythyrau yn dechrau ac yn gorffen?

Mae cyswllt blwch llythyrau yn cychwyn ar ôl i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei ganiatáu yn ystod y mis y cytunwyd arno ac mae’n parhau nes bod y plentyn yn 18 oed.

Gofynnwn i fabwysiadwyr ysgrifennu’r llythyr cyntaf at y teulu biolegol yn y mis cyntaf y cytunwyd arno ar ôl i orchymyn mabwysiadu gael ei gyhoeddi. Fel hyn, gall aelodau o’r teulu biolegol ymateb i’r pethau y mae’r mabwysiadwyr yn gyfforddus yn siarad amdanynt. Mae hyn yn gosod strwythur cynnar i sicrhau bod pob parti yn gyfforddus â’r cyfathrebu sy’n digwydd.

Os oes angen i chi drafod unrhyw faterion neu newidiadau ynglŷn â chyswllt Blwch Llythyrau cyn y gorchymyn mabwysiadu, cyfeiriwch hyn at y Gweithiwr Cymdeithasol Gofal Plant. Ar ôl i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei gyhoeddi, rhaid cyfeirio pob ymholiad at y Cydlynwyr Blwch Llythyrau. Rhoddir cyfeirnod Blwch Llythyrau unigryw i chi i’w ddefnyddio ar eich holl ohebiaeth. Mae’r Blwch Llythyrau yn parhau hyd at ben-blwydd y plentyn/person ifanc yn 18 oed. Mae’r ffeil Blwch Llythyrau gyda chopïau o’r holl ohebiaeth gan y ddwy ochr wedyn yn dod yn rhan o’r cofnodion mabwysiadu. Rydym yn cadw’r rhain am 100 mlynedd o’r dyddiad y rhoddwyd y gorchymyn mabwysiadu.

Contact our Letterbox service by phone, post or email:

Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Tîm Cyswllt Blwch Llythyrau
3ydd Llawr Stryd Lambpit
Wrecsam
LL11 1AR

Ffôn: 01978 295311
E-bost: nwasletterbox@wrexham.gov.uk

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk