Eich ymholiad cychwynnol
Rydych chi’n dechrau’r broses trwy wneud eich ymholiad cychwynnol. Gallai hyn fod yn alwad ffôn neu’n llythyr / e-bost i’r Gwasanaeth Mabwysiadu yn mynegi eich diddordeb mewn mabwysiadu ac yn gofyn am ragor o fanylion. Bydd y Gwasanaeth Mabwysiadu yn cymryd rhai manylion sylfaenol ac yna, cyn pen 5 diwrnod gwaith, yn anfon pecyn gwybodaeth atoch sy’n rhoi gwybodaeth i chi am:
Y Tîm Mabwysiadu yn ystyried eich ymholiad cychwynnol
Ar ôl i chi benderfynu eich bod yn dymuno bwrw ymlaen ac wedi cysylltu â’r Asiantaeth Fabwysiadu, bydd y Swyddog Recriwtio/Gweithiwr Cymdeithasol yn trefnu cyfarfod â chi cyn gynted â phosibl a chael trafodaeth lawn am eich cais, y rhesymau rydych chi am fabwysiadu, eich amgylchiadau teuluol ac ati.
Bydd y Swyddog Recriwtio / Gweithiwr Cymdeithasol Mabwysiadu yn rhoi Ffurflen Cofrestru Diddordeb (ROI) i chi ei chwblhau a’i dychwelyd os ydych am barhau â’ch cais.
Bydd eich ROI yn cael ei adolygu gan Reolwr, byddwn wedyn yn gwneud penderfyniad ynghylch a ydym yn symud ymlaen i Gam Un y broses ai peidio, ac rydym yn eich hysbysu o hyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Os na allwn dderbyn eich cais am unrhyw reswm, trafodir y rhesymau gyda chi.
Os cytunwn y byddwch yn symud ymlaen o fewn pythefnos, yna rhoddir Gweithiwr Cymdeithasol Mabwysiadu i chi.
Y camau nesaf…
During stage one, we’ll largely be gathering information and carrying out the relevant checks.
During stage two, you’ll go through a programme of mandatory training and assessments to prepare you for adoption. Find out more about what to expect during this process.
Young children, older children, brothers and sisters, children with additional needs. Find out more about the types of children waiting for their lives to change.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.
Rhadffôn
0800 085 0774
E-bost
adoption@wrexham.gov.uk