Mae’r cam hwn yn cael ei arwain gan ddarpar fabwysiadwyr ac mae’n gofyn i chi fod yn ymrwymedig a sicrhau bod y gofynion yn cael eu cwblhau mewn modd amserol. Yn ystod Cam Un, mae eich Gweithiwr Cymdeithasol yn debygol o gyfarfod â chi ychydig o weithiau a bydd sawl tasg i chi eu cwblhau. Er enghraifft, cwblhau’r Pecyn Gwaith Cam Un a mynychu Hyfforddiant.
Mae eich Gweithiwr Cymdeithasol yn debygol o roi mwy o fewnwelediad i chi o anghenion plant a byddant yn dechrau dod i ddeall eich hanes personol.
Bydd gennych gytundeb gweithio o’r enw Cytundeb Cam Un. Anfonir tasgau a ffurflenni gwaith cartref. Mae’r rhain yn cynnwys tabl ar gyfer cyllid, rhestr wirio iechyd a diogelwch ac offeryn hunanasesu yn ogystal ag adnoddau gan gynnwys argymhellion ar gyfer darllen ac ymchwil bellach. Gofynnir am bob gwiriad a chyfeirnod yn ystod y cam hwn.
Mae’r rhan fwyaf o fabwysiadwyr yn ei chael hi’n ddefnyddiol cynnal ymchwil ar fabwysiadu. Dylai’r rhestr adnoddau a ddarperir helpu gyda hyn, ond cysylltwch â’ch Gweithiwr Cymdeithasol os oes angen mwy o help arnoch. Gellir dod o hyd i wybodaeth hefyd ar wefannau CoramBAAF, Adoption UK a Y broses fabwysiadu – Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Byddem yn eich annog i gysylltu â mabwysiadwyr eraill i ddarganfod mwy a gallwn eich cynorthwyo gyda hyn os nad ydych yn adnabod unrhyw un eich hun.
Mae’n hanfodol eich bod yn dweud wrthym am unrhyw wybodaeth/newidiadau arwyddocaol yn eich bywyd, megis gwybodaeth sy’n ymwneud â chi neu aelodau o’ch teulu y byddai’r plentyn yn cysylltu â nhw a allai effeithio ar neu achosi pryder ynghylch eich gallu i ddarparu gofal diogel i blentyn sy’n agored i niwed. Gallai unrhyw fethiant i wneud hyn effeithio ar ganlyniad y cais mabwysiadu. Gofynnwch i ni am hyn os oes gennych unrhyw amheuon.
Ar ôl cwblhau Cam Un, gan gynnwys derbyn gwiriadau a thystlythyrau, cynhelir cyfarfod adolygu Cam Un a gwneir penderfyniad gan y Rheolwr Tîm ynghylch a allwch symud ymlaen i Gam Dau. Os na allwn symud ymlaen am unrhyw reswm, bydd y rhesymau dros hyn yn cael eu rhannu gyda chi. Byddech yn gallu cyrchu Gweithdrefn Cwynion Wrecsam pe na baech yn cytuno â’r penderfyniad, ac yn rhydd i fynd at asiantaethau eraill unrhyw bryd.
Fel rheol ni ddylai Cam Un gymryd mwy na 2 fis. Os oes unrhyw oedi cyn i wiriadau a thystlythyrau gael eu derbyn neu os ydych chi’n teimlo bod angen mwy o amser arnoch i archwilio a yw mabwysiadu yn iawn i chi yna gellir ymestyn Cam Un.
Weithiau bydd darpar fabwysiadwyr yn penderfynu eu bod am gymryd seibiant o hyd at chwe mis rhwng Cam Un a Cham Dau y broses fabwysiadu (gall yr asiantaeth argymell hyn). Gallwch wneud hynny heb i’ch asesiad gael ei atal. Bydd yr holl gofnodion a dogfennaeth a gyflwynir yn cael eu cadw i’w defnyddio yn y dyfodol, os penderfynwch ddilyn y llwybr hwn, neu i atal eich asesiad ar y pwynt hwn. Pe bai egwyl yn hwy na 6 mis, byddai’n ofynnol i chi ailgychwyn Cam Un.
Paratoi i Fabwysiadu
Yng Ngham Un, byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu cwrs paratoi ar gyfer mabwysiadu pedwar diwrnod gorfodol a fydd yn rhoi dealltwriaeth o’r mathau o blant sydd angen teuluoedd mabwysiadolu, sut mae eu profiadau o drawma, cam-drin neu esgeulustod yn gallu effeithio ar eu hymddygiad a/neu eu datblygiad, a sut mae rhianta therapiwtig yn gallu helpu.
Mae’r cwrs yn cael ei gynnal dros bedwar diwrnod ac mae presenoldeb ar bob un o’r pedwar diwrnod yn orfodol. Bydd y broses yn cael ei gohirio os nad yw ymgeiswyr yn gallu mynychu’r paratoad cychwynnol, a bydd arwydd clir o’u hargaeledd yn cael ei asesu.
Mae’r hyfforddiant yn rhoi cyfle i gwrdd â rhieni mabwysiadol ac eraill sy’n rhan o’r broses fabwysiadu gan gynnwys staff yn yr asiantaeth.
Y camau nesaf…
Yn ystod cam dau, byddwch chi'n mynd trwy raglen o hyfforddiant ac asesiadau gorfodol i'ch paratoi
Plant ifanc, plant hŷn, brodyr a chwiorydd, plant ag anghenion ychwanegol. Darganfyddwch fwy am y mathau o blant sy'n aros i'w bywydau newid.
Mae Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu yn wrandawiad craff a thwymgalon gan wahanol fabwysiadwyr ledled Cymru. Cewch glywed gan y bobl sydd eisoes wedi bod drwy’r broses.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.
Rhadffôn
0800 085 0774
E-bost
adoption@wrexham.gov.uk