Croeso i Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, a elwir yn GMGC.
Mae mabwysiadu plentyn yn benderfyniad sy’n newid bywyd, sy’n llawn eiliadau gwerth chweil, ond nid yw heb ei heriau. Rydyn ni yma i’ch helpu a’ch cefnogi trwy bob cam o’r siwrnai gyffrous hon.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u statws perthynas, rhywioldeb, credoau neu ethnigrwydd. Os oes gennych gartref diogel a chariadus, gallwn weithio gyda chi i lunio’ch sgiliau a’ch rhinweddau i’ch helpu i baratoi i ddod yn rhiant trwy fabwysiadu.
Ni allwch newid eu gorffennol, ond gallwch wneud dewis sy’n newid eu dyfodol. Deall mwy am y plant sy'n aros amdanoch.
Becoming a parent through adoption is easier and quicker than you might think. The process is there to make sure the adoption is a success for both you and the child.
We get lots of questions about adoption, so we might already have the answer to any questions you have.
Young children, older children, brothers and sisters, children with additional needs. Find out more about the types of children waiting for their lives to change.
Mae Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu yn wrandawiad craff a thwymgalon gan wahanol fabwysiadwyr ledled Cymru. Cewch glywed gan y bobl sydd eisoes wedi bod yno a'i wneud.
Mae ein Tîm Cymorth Mabwysiadu yn darparu ystod o wasanaethau cymorth i bawb y mae mabwysiadu yn effeithio arnynt, gan gynnwys plant mabwysiedig, rhieni mabwysiadol, rhieni biolegol a'u teuluoedd sy'n byw yn rhanbarth Gogledd Cymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.
Rhadffôn
0800 085 0774
E-bost
adoption@wrexham.gov.uk