Cwrs Hyfforddi
Dydd Iau 9 Mai
Cwrs hyfforddi 4 diwrnod

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn wasanaeth cyfun rhwng timau mabwysiadu awdurdodau lleol yn
Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i helpu
i ddod o hyd i deuluoedd lleol i blant lleol yng Ngogledd Cymru
Datganiad o Ddiben Fersiwn PDF (274Kb)
Mae mwy nag un ffordd i greu teulu. Ond sut yr ydych yn dewis pa lwybr sy'n iawn i chi-a sut mae cychwyn arni? Dewch o hyd i holl wybodaeth y mae angen i chi wybod am fabwysiadu trwy ein Canllaw Gwybodaeth mabwysiadu.
(Dim ond yn y Saesneg y mae'r canllaw hwn ar gael ar hyn o bryd)
Mae Mabwysiadu gan gymar y rhiant yn ffordd y gallwch fod yn rhiant cyfreithiol i blentyn/plant eich partner o berthynas neu briodas flaenorol.
Mae canllaw mabwysiadu i blant yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am fabwysiadu ac yn rhoi gweithdrefnau gam wrth gam.
Mae'r wybodaeth hon yn cael ei hysgrifennu ar gyfer rhieni geni a ellir fod eu plant/plentyn yn cael ei mabwysiadu. Mae'n nodi'r fframwaith cyfreithiol lle y mae asiantaethau mabwysiadu a'r llysoedd yn gwneud penderfyniadau ynghylch a gallai plentyn gael ei fabwysiadu. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am eich hawliau fel rhieni o fewn y broses mabwysiadu ac yn gwneud awgrymiadau am bwy arall y gallwch gysylltu am gyngor a chymorth pellach.
Beth bynnag yw'r amgylchiadau, mae hyn yn debygol o fod yn amser trawmatig iawn i chi fel rhieni. Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth hon yn eich helpu i ddeall eich hawliau a'ch dewisiadau a pha gymorth sydd ar gael.